Amdan y Gwobrau

Ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cymru mae BBC Cymru Wales a Chwaraeon Cymru yn dod at ei gilydd yn flynyddol i arddangos goreuon y byd chwaraeon yng Nghymru ar lefel elitaidd ac ar lawr gwlad.

Mae’r Gwobrau’n cyfuno arbenigedd y ddau sefydliad er mwyn creu dathliad chwaraeon blynyddol mwyaf Cymru.

Mae’r Gwobrau’n cynnwys amrywiaeth o gategoriau.

Caiff y cyhoedd enwebu a phleidleisio dros eu hoff arwyr chwaraeon cymunedol ac elitaidd, gyda phanel arbenigol o feirniaid yn penderfynu ar lawer o’r enillwyr cyffredinol.

Mae gwobrau anrhydeddus Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru Wales a Hyfforddwr y Flwyddyn ymhlith y rhai a ddyfernir ar noson y Gwobrau.

Yn y Seremoni Wobrwyo nos Lun y 4ydd o Ragfyr, byddwn hefyd yn dyfarnu gwobr Tîm y Flwyddyn ac Athletwr ac Athletwraig y Flwyddyn Carwyn James. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl wobrau sy’n cael eu cynnig ar gael ar y dudalen categoriau.

Mae’r enwebiadau ar gyfer nifer o’r categoriau cymunedol ar agor rhwng 1af Medi 2015 a 25ain Medi 2015.

I gael rhagor o wybodaeth am BBC Cymru Wales ewch i www.bbc.co.uk/wales

I gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru ewch i www.chwaraeon.cymru