NOSON EURAIDD I JONATHAN DAVIES YNG NGWOBRAU CHWARAEON CYMRU 2017

Cafodd y canolwr rygbi undeb, Jonathan Davies ei enwi heno (nos Lun, 4 Rhagfyr) yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2017 BBC Cymru yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru. Daeth Jonathan i frig y bleidlais gyhoeddus, ar y blaen i Geraint Thomas, a ddaeth yn ail, a Natalie Powell yn y trydydd safle.

Mae Jonathan wedi cael blwyddyn ddisglair yn 2017; arweiniodd ei berfformiad cadarn i’r Llewod iddo gael ei enwebu yn chwaraewr y gyfres yn Seland Newydd. Chwaraeodd y canolwr bob munud o’r tri Phrawf yn erbyn y Crysau Duon wrth i’r Llewod greu hanes drwy sicrhau cyfres gyfartal.

Dechreuodd y chwaraewr 29 oed ymgyrch y Chwe Gwlad eleni gyda chais ym muddugoliaeth Cymru o 33-7 yn erbyn Yr Eidal. Fe wnaeth tîm rhanbarthol Jonathan, Y Sgarlets, guro Munster yn Nulyn yn rownd derfynol y Pro12, a Jonathan oedd un o’r chwe chwaraewr a sgoriodd gais wrth iddynt ennill o 46-22 i gipio’r teitl am y tro cyntaf ers 2004.

Cafodd eraill eu gwobrwyo am gyflawniadau arbennig yn y byd chwaraeon yng Nghymru wrth i Chwaraeon Cymru a BBC Cymru ddod at ei gilydd unwaith eto i gynnal dathliad chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad mewn seremoni yn y Celtic Manor, Casnewydd.

 Yr enillwyr oedd:

  • Tîm y Flwyddyn – Devils Caerdydd
  • Hyfforddwr y Flwyddyn – Christian Malcolm (Athletau, Casnewydd)
  • Gwobr Cyflawniad Oes – Alan Curtis (Pêl-droed, Abertawe)
  • Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig – David Watkins
  • Athletwraig Ifanc y Flwyddyn – Catrin Jones (Codi pwysau, Ynys Môn)
  • Athletwr Ifanc y Flwyddyn – Ben Woodburn (Pêl-droed, Clwb Pêl-droed Lerpwl)
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Fateha Ahmed (Nofio, Caerdydd)
  • Person Ifanc Ysbrydoledig – Hannah Nolan (Aml-chwaraeon, Llandudno)
  • Sefydliad y Flwyddyn – Chwaraeon Anabledd Cymru
  • Profiad Chwaraeon y Flwyddyn – Us Girls
  • Arwr Tawel BBC Cymru – Mike Blake (Trefnwr Rhedeg, Caernarfon)
  • Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Mark James (Bocsio, Casnewydd)

Ar ôl ennill y Cwpan Her a’r Gyngres Earhardt, a gorffen ar frig y Gynghrair Elit, Devils Caerdydd enillodd y wobr am Dîm y Flwyddyn eleni, ar ôl y flwyddyn orau erioed yn eu hanes.

Mae Hyfforddwr y Flwyddyn, Christian Malcolm, wedi creu argraff fel hyfforddwr ar ôl rhoi’r gorau iddi fel athletwr. Fel hyfforddwr ras gyfnewid, enillodd ddynion Christian y fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd gan dorri record Prydain a’r record Ewropeaidd, tra bo’r merched wedi ennill medal arian. Yna ym Mhencampwriaethau Paralympaidd Byd yr IPC, bu’n hyfforddi Jordan Howe, a enillodd fedal arian, a Rhys Jones, a redodd ei amser gorau erioed gan orffen yn bedwerydd.

Cyflwynwyd gwobr Cyfraniad Oes i Alan Curtis. Mae Alan wedi treulio ei oes ym myd pêl-droed ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Abertawe yn 1972. Ac mae’n dal yn Abertawe hyd heddiw, wedi cyfnod gyda Leeds a Southampton, a chyfnod ar fenthyg yn Stoke City, a gyda Chaerdydd. Ymddangosodd Alan 35 gwaith dros ei wlad (gan sgorio chwe gôl). Ers iddo ymddeol o chwarae, mae wedi treulio blynyddoedd lawer y tu ôl i’r llen yng nghlwb pêl-droed Dinas Abertawe – gan gynnwys cyfnodau fel Hyfforddwr y Tîm Cyntaf a Rheolwr Dros Dro. Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr dros Chwaraewyr sydd ar Fenthyg.

Rhoddwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig i David Watkins, cyn chwaraewr rhyngwladol Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Gynghrair a ddechreuodd ei yrfa yn chwarae i Glwb Rygbi Casnewydd yn 1961.

Yr athletwraig Catrin Jones, cyn fabolgampwraig, a drodd at godi pwysau, enillodd wobr Athletwraig y Flwyddyn Carwyn James. Cafodd lwyddiant ar lefel Iau Ewropeaidd, ennill Aur yng Ngemau Iau y Gymanwlad a’r gorau ym Mhrydain ar lefel uwch.

Dyfarnwyd gwobr Athletwr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James i Ben Woodburn, o glwb pêl-droed Lerpwl a Chymru. Roedd Ben eisoes yn dal y record fel y chwaraewr ifancaf i sgorio dros Lerpwl, ond daeth i sylw’r byd yn 2017 pan sgoriodd gôl ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru – a’r gôl honno enillodd y gêm yn erbyn Awstria. Ac yntau ond yn 17 oed, ef yw’r ail chwaraewr ifancaf i sgorio dros Gymru.

Cafodd Fateha Ahmed ei henwi yn Wirfoddolwraig y Flwyddyn am drefnu a rhedeg sesiynau nofio preifat ar gyfer menywod Moslemaidd yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd y wobr ar gyfer Person Ifanc Ysbrydoledig i Hannah Nolan o Landudno. Mae hi’n ysbrydoli pobl ifanc i gadw’n heini drwy wasanaeth ieuenctid Conwy ac yn cael ei hystyried fel aelod cwbl allweddol o brosiectau’r gymuned.

Chwaraeon Anabledd Cymru sydd wedi cipio’r wobr Sefydliad y Flwyddyn, am gynnig mwy na miliwn o gyfleoedd i gymryd rhan bob blwyddyn. Mae’r sefydliad hefyd wedi rhoi Cymru ar y map gyda llwyddiant mawr mewn digwyddiadau elitaidd.

Fe gafodd y wobr Profiad Chwaraeon y Flwyddyn ei chyflwyno i Us Girls, cynllun sy’n cael ei weithredu gan yr elusen chwaraeon StreetGames. Cafodd y rhaglen ganlyniadau syfrdanol wrth ddenu cyfranogwyr benywaidd newydd ‘anodd eu cyrraedd’, a gwirfoddolwyr, hyfforddwyr ac arweinwyr newydd.

Mae’r trefnydd digwyddiadau rhedeg mynydd profiadol Mike Blake wedi cael ei enwi fel Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru. Mae Mike, ac yntau bron yn 70 oed bellach, wedi bod yn aelod o glwb rhedwyr Eryri yng ngogledd Cymru am bron i ddeugain o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi trefnu dros 300 o rasys, i gyd yn wirfoddol, gyda’r holl enillion yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a thimau achub mynydd.

Bydd e’n mynd yn ei flaen yn awr i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar BBC One, nos Sul, Rhagfyr 17 am 6.45pm.

I gwblhau’r rhestr o enillwyr, enillodd Mark James, sydd wedi rhoi o’i amser i hyfforddi mewn clwb bocsio yng Nghasnewydd, y wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Dywedodd Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru: “Ry’ ni wedi derbyn enwebiadau ysbrydoledig iawn – mwy nag erioed o’r blaen – ar gyfer gwobrau eleni ac mae pawb heno wedi dangos eu hangerdd a’u brwdfrydedd mewn cymunedau dros Gymru gyfan.

“Rwy mor falch o’r holl wirfoddolwyr, hyfforddwyr, arweinwyr a’r sefydliadau sydd wedi helpu i adeiladu cenedl heini, iachach ac roedd hi wir yn anrhydedd i’w gweld nhw heno yn cael eu cydnabod fel gwir arwyr chwaraeon Cymru.

“Does dim dwywaith y bydd eu llwyddiant yn annog pobl eraill i fynd ati i helpu yn eu cymunedau ac i gyfrannu tuag at lwyddiant chwaraeon yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “Mae heno yn gyfle i ddathlu llwyddiant timau ac unigolion ysbrydoledig, sydd wedi gwneud cymaint o gyfraniad i’r byd chwaraeon. Mae Gwobrau Chwaraeon Cymru unwaith eto yn cydnabod talent ac ymroddiad pobl dros Gymru gyfan.”

Bydd Gwobrau Chwaraeon Cymru 2017 ar gael ar BBC iPlayer am y 30 diwrnod nesaf ac ar Fotwm Coch y BBC am 5.30pm, ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9.

Llysgenhadon Ifanc Cymru – Profiad Chwaraeon y Flwyddyn.

Mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc (LlI) yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth.

“Mae’n cynnig cyfleoedd gwych i berson ifanc ac mae’n grêt ar gyfer cyflogadwyedd – rydych chi’n cael cymaint o brofiad, mae’n anodd ffitio popeth ar eich CV!” meddai Beth Nesham, sydd wedi ymwneud â rhaglen y LlI am y 7 mlynedd diwethaf.

Mae wedi gweld y rhaglen yn tyfu o’i dechrau i ble mae heddiw, gyda thua 3,000 o Lysgenhadon yn weithredol.

Meddai wedyn: “Mae bod yn Llysgennad Ifanc yn creu rhyw deimlad o ddiogelwch a hefyd yn eich gwthio chi tu hwnt i beth sy’n gyfforddus i chi. Rydych chi’n wynebu heriau ond eto’n dal i deimlo’n ddiogel gyda’r teulu o Lysgenhadon Ifanc.

Yn bartneriaeth dan arweiniad Chwaraeon Cymru a’r Youth Sport Trust, ac yn cael ei chyflwyno gan bartneriaid allweddol, nod rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn arweinwyr drwy chwaraeon.

I rai, mae’r siwrnai bersonol yn un enfawr.

“Pan wnes i ddechrau fel Llysgennad, roeddwn i mewn Uned ar gyfer pobl â phryder mawr ac roedd yn eithaf gwael,” dywedodd Fintan Edwards. “Roedd o help i mi wrth i fy hyder i ddechrau tyfu eto ac fe roddodd hwb ychwanegol i mi. Mae’n rhoi pwrpas i mi.”

“Nawr rydw i’n gweld fy hun fel person normal sy’n gwneud beth rydw i’n ei fwynhau,” ychwanegodd.

Ar hyn o bryd mae Llysgenhadon Ifanc i’w cael mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, prifysgolion a chymunedau ym mhob un o’r 22 Awdurdod Lleol ledled Cymru, yn hyrwyddo chwaraeon ysgol a chymunedol a hamdden gorfforol.

I lawer, dydyn nhw ddim eisiau gweld y siwrnai’n dod i ben!

Dyma Bronnie Griffiths, myfyrwraig ym Met Caerdydd sy’n cymryd rhan yn awr yn y rhaglen gyntaf un i Lysgenhadon Ifanc ym maes Addysg Uwch yn y DU.

“Rydw i wedi datblygu sgiliau personol a phroffesiynol,” esbonia Bronnie. “’Fyddwn i ddim ble rydw i heddiw heb y rhaglen. Diolch iddi wnes i benderfynu mynd i’r brifysgol,” ychwanegodd.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r Llysgenhadon Ifanc. Mae llawer ohonynt wedi cael eu cydnabod mewn gwobrau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a ledled y DU. Hefyd cynhaliwyd y 7fed Cynhadledd Genedlaethol i Lysgenhadon Ifanc Aur gyda 100 o Lysgenhadon Ifanc a 50 o swyddogion yn bresennol – ac, yn bwysicach na dim, y Llysgenhadon eu hunain drefnodd y cyfan.

Mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi profi twf aruthrol ers ei sefydlu yn 2010. Ers hynny, mae tua 12,000 o Lysgenhadon Ifanc wedi cael eu hyfforddi ledled Cymru, gan wirfoddoli miloedd o oriau mewn chwaraeon ysgol a chymunedol a gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Y Bartneriaeth Chwaraeon Anabledd Iechyd – Profiad Chwaraeon y Flwyddyn.

Mae Partneriaeth Chwaraeon Anabledd Iechyd wedi ‘newid y gêm’ i bobl anabl yng Ngogledd Cymru, yn ôl y rhai sydd wedi elwa ohoni.

“Mae cael eich derbyn drwy gyfleoedd chwaraeon mor bwysig,” dywedodd gwirfoddolwraig Deb Bashford, a gafodd ei pharlysu ei hun yn 11 oed. “Am yr awr yma, nid y person anabl ydyn nhw, dim ond aelod yn cael hwyl mewn clwb chwaraeon.”

Y bartneriaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwaraeon Anabledd Cymru  yw’r gyntaf o’i bath yn y DU.

Dechreuodd yn 2013, diolch i grant Galw Am Weithredu am dair blynedd gan Chwaraeon Cymru.

“Cafodd ei sefydlu i ddatblygu perthynas rhwng y rhwydweithiau iechyd a chwaraeon ledled Gogledd Cymru, gyda nod cyffredin o wella iechyd a llesiant pobl anabl drwy gyfrwng cyfranogiad cynyddol mewn gweithgarwch corfforol,” esbonia Catherine Chin, Swyddog Chwaraeon Anabledd Iechyd.

Oherwydd ei lwyddiant, bydd y prosiect yn parhau a cheir cynlluniau uchelgeisiol i’w ehangu ledled y wlad.

Mae pobl anabl yn llai egnïol yn gorfforol na phobl heb anabledd. Dim ond 3.4% o’r boblogaeth hon yng Ngogledd Cymru oedd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar ddechrau’r bartneriaeth yn 2013, o gymharu a 41% o bobl heb anabledd.

Roeddent eisiau cau’r bwlch yma.

“Cynlluniwyd llwybr fel bod Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn gallu cyfeirio pobl anabl o wasanaethau iechyd at gyfleoedd gweithgarwch corfforol yn eu cymuned leol, drwy gyfrwng Chwaraeon Anabledd Cymru,” esbonia Catherine.

Ychwanegodd: “Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth, yn gorfforol ac yn feddyliol, o ran trawsnewid bywydau pobl anabl a’u teuluoedd, drwy bŵer chwaraeon.”

Yn ystod 3 blynedd gyntaf y prosiect, manteisiodd 560 o bobl anabl ar y cyfle i fod yn egnïol, gyda phedwar athletwr talentog yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn eu campau.

Mae Deb, sy’n aelod o Glwb Pêl Fasged Cadair Olwyn Celts Caernarfon, yn llawn canmoliaeth i’r llwybr: “Yn 11 oed fe gafodd fy myd i ei droi ben i lawr ac fe fyddwn i wedi rhoi rhywbeth am gael y llwybr yma ar gael i mi bryd hynny,” cofia’n ôl.

35 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n dweud bod gweithgareddau chwaraeon wedi ei helpu i siarad am ei phrofiadau.

“Yn 13 oed, fe wnes i ystyried lladd fy hun,” cyfaddefa. “Ond nawr rydw i’n defnyddio fy anabledd fel adnodd i helpu eraill sydd ar siwrnai debyg.”

Ychwanegodd: “Mae cyfleoedd chwaraeon fel hyn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol.”

Y Bartneriaeth Awyr Agored – Sefydliad y Flwyddyn.

Chwaraeon a’r awyr agored yn mynd law yn llaw.

Mae un sefydliad yng Ngogledd Orllewin Cymru’n manteisio i’r eithaf ar beth sydd gan yr awyr agored i’w gynnig.

“Rydyn ni’n defnyddio’r awyr agored ac adnoddau naturiol i wella bywydau pobl ac i’w hysbrydoli nhw i gymryd rhan,” esbonia’r Prif Swyddog Gweithredol, Tracey Evans.

Yn ogystal â llwyddiant ei rhaglenni craidd, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi mynd yr ail filltir i sbarduno cynhwysiant yn y sector awyr agored.

“Mae gennym ni nifer o raglenni sy’n gweithio gyda grwpiau targed penodol,” esbonia Tracey.

Ers ei sefydlu fwy na deng mlynedd yn ôl, mae’r elusen wedi bod yn gyfrifol am sefydlu tua 80 o glybiau gweithgarwch a grwpiau, gydag aelodaeth o fwy na 7000.

Ychwanegodd Tracey: “Ddeng mlynedd yn ôl, doedd dim diwylliant o wirfoddoli yn y sector awyr agored ond, heddiw, mae gennym ni weithlu gwirfoddol mawr – cyflawniad enfawr!”

Eleni, cymerodd mwy na 400 o wirfoddolwyr ran mewn cynllun mentora ac, am y tro cyntaf yn hanes y sefydliad, mwy o ferched nag o ddynion.

Mae gweithio gyda grwpiau a dangynrychiolir yn rhan bwysig o beth mae’r Bartneriaeth yn ei wneud ac mae wedi ysbrydoli cannoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Bethan Davies, y Swyddog Datblygu Cynhwysiant: “Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ceisio datblygu i fod yn sefydliad mwy cynhwysol a chefnogi’r datblygiad yma ar draws clybiau a phartneriaid eraill ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy.”

Mae bron i 700 o bobl sydd â nam wedi cymryd rhan mewn sesiynau blasu chwaraeon a’r elusen oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn safon insport 3ydd Sector Rhuban Chwaraeon Anabledd Cymru nôl ym mis Mai.

Yn y cyfamser, mae ei rhaglen Antur y Merched wedi ysbrydoli mwy na 260 o ferched a genethod i roi cynnig ar weithgareddau sy’n amrywio o chwaraeon tanddwr i syrffio. Cafodd llawer o’r rhain eu hysbrydoli i fynd ymlaen i ennill cymwysterau hyfforddi, gan agor llawer o gyfleoedd iddynt yn y sector gweithgarwch awyr agored.

Ychwanegodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru: “Maen nhw wedi gweithio’n galed i sefydlu sylfaen gadarn i greu newidiadau diwylliannol cynhwysol a chynnig cyfleoedd safonol i bawb.”

Chwaraeon Anabledd Cymru – Sefydliad y Flwyddyn.

Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru (ChAC) weledigaeth – trawsnewid bywydau drwy bŵer chwaraeon.

 

Fel sefydliad chwaraeon anabledd blaenllaw ar lefel y byd, mae’n rhoi ein gwlad fechan ond llwyddiannus ni ar y map.

“Mae’n gyfnod cyffrous i chwaraeon anabledd yng Nghymru,” cyhoedda Anthony Hughes, Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol gyda ChAC.

Mae datblygu cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn hamdden egnïol wrth galon yr hyn mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n ei wneud. Eu hathroniaeth yw gweithio tuag at sector chwaraeon cynhwysol yng Nghymru. Ac mae eu cynnydd yn glir i’w weld.

“Mae ein rhaglenni cymunedol ni nid yn unig yn bwydo drwy ein rhaglen dalent, ond hefyd yn cadw pobl yn egnïol ac yn iach mewn ffordd hwyliog,” dywedodd Anthony. “Maen nhw’n teimlo’n rhan o rywbeth ac yn teimlo’u bod yn perthyn. Mae hynny’n eu helpu nhw i dyfu wythnos ar ôl wythnos a dyna’r rhan bwysicaf i ni,” ychwanegodd.

Mae ChAC yn credu bod chwaraeon yn gallu creu cyfleoedd bywyd positif i bobl anabl, boed yn cymryd rhan mewn chwaraeon cymunedol, yn cyflawni mewn arena gystadleuol neu’n cyfrannu at chwaraeon drwy hyfforddi, gwirfoddoli neu arwain. Y nod a’r penderfyniad cyffredin yma sy’n golygu bod eu staff a’u gwirfoddolwyr yn gweithio mor galed.

Mae llawer o’r cyfleoedd yma’n dechrau gyda rhaglenni cymunedol y mae Anthony yn eu galw’n “asgwrn cefn” y sefydliad. Gyda bron i 23,000 o aelodau clwb a mwy na miliwn o gyfleoedd i gymryd rhan y flwyddyn, caiff ei hystyried yn eang fel un o’r rhaglenni mwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer darparu chwaraeon anabledd.

Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod lwyddiannus i ChAC, gyda’u gwaith mewn ysgolion, clybiau, digwyddiadau a chyfleoedd partneriaeth.

Yng Ngemau Paralympaidd 2016, roedd athletwyr Cymru’n 10% o Dîm Paralympaidd Prydain Fawr gan ennill medalau Aur, Arian ac Efydd. Parhaodd y llwyddiant yn 2017, gydag athletwyr profiadol a thalentau ifanc newydd i gyd yn chwifio baner ein cenedl falch. Mae 2018 yn addo mwy fyth o gyffro, fel yr ychwanega Anthony:

“Y teimlad yw, gwyliwch y gofod a gwyliwch Gymru hefyd. Ni sy’n gwneud Prydain yn fawr!”

Chris Rogers – Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Mae Chris Rogers nid yn unig yn hoff o geffylau, ond hefyd o hyfforddi pobl i fod yn acrobatig arnyn nhw!

“Gymnasteg a dawns ar gefn ceffyl ydi hyn mewn gwirionedd,” esbonia Chris, sy’n brif hyfforddwr gyda’r Talygarn Vaulters.

Mae’r Clwb Marchogaeth wedi bod yn weithredol ers chwe blynedd ac mae wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl am y tair blynedd diwethaf.

“Gweld y plant yn gwneud gwelliannau personol enfawr ydi fy rheswm i dros wneud hyn,” dywedodd Chris. “Pan maen nhw’n cyrraedd i ddechrau, dydyn nhw ddim yn gallu mynd ar gefn y ceffylau, ond wedyn maen nhw’n magu hyder.”

Diolch i amynedd, ymrwymiad a gwaith caled Chris, mae plant abl ac anabl yn cael bod yn egnïol, a chystadlu yn y gamp hyd yn oed.

Yn wir, mae wedi helpu i hyfforddi tri neidiwr rhyngwladol ac mae nifer o Bencampwyr Cymru yn y grŵp.

“Dim ots os ydi’r cyflawniadau’n fawr neu’n fach, cynnydd sy’n bwysig – ac i bob plentyn mae hynny’n bwysig iawn,” meddai’r hyfforddwr o Dde Cymru.

Mae Chris yn cynnal tri grŵp, gan gynnwys sesiwn gydag ysgol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) leol.

Mae hi’n brysur yn hybu aelodaeth y clwb hefyd. Mae’n cymryd ei rôl o ddifrif a bob amser yn ceisio gwella ei gwybodaeth a’i hyfforddiant mewn meysydd anabledd ac yn fwy cyffredinol.

Ac nid yw ei hymdrechion wedi’u cyfyngu i hyfforddi – yn aml mae’n brysur yn gweinyddu’r clwb, yn golchi’r cit ac yn cynnal a chadw’r tiroedd yn gyffredinol.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r cyfan,” dywedodd. “Rydw i wedi ymwneud â cheffylau erioed ac rydw i’n hoff iawn o’r ochr greadigol, o’r gwisgoedd a’r gerddoriaeth i’r themâu a’r ymarferion.”

Mae Chris yn rhoi ei dyddiau, ei gyda’r nosau a’i phenwythnosau i’r clwb – ac yn cael llawer o bleser o hynny.

Mae’n dweud bod neidio ceffylau’n gallu eich gwneud chi’n fwy heini ac yn gryfach, gan wella eich cryfder craidd a’ch cydbwysedd.

“Mae’n grêt gweld y plant yn dechrau meddwl am eu syniadau eu hunain am beth maen nhw eisiau ei berfformio – fy ngwaith i ydi eu hannog nhw,” ychwanegodd.

Mae’n argymell hyfforddi mewn chwaraeon i bawb.

“Os ydych chi’n hoffi rhywbeth, gwnewch e. Mae’n rhoi cymaint o foddhad.”

Fateha Ahmed – Gwirfoddolwr y Flwyddyn.

“Rydw i’n teimlo’n gymaint mwy egnïol”
“Mae ymarfer yn codi fy hwyliau i”
“Rydw i’n teimlo’n rhan o grŵp ac rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd”

Dim ond rhywfaint o’r adborth gan ferched Mwslimaidd o Gaerdydd sydd nawr yn nofio – diolch i Fateha Ahmed.

Fel Gweithiwr Eirioli gwirfoddol yn y gymuned DLlE, gwelodd Fateha bod diffyg gweithgareddau nofio ar gael ar gyfer merched Mwslimaidd lleol.

Arweiniodd ei dyhead i newid hyn at Brosiect Nofio lleol a sefydlwyd gan Chwaraeon DLlE Cymru fwy na 12 mis yn ôl.

Ers hynny, mae mwy na 250 o ferched a genethod wedi mynychu’r sesiwn nofio ar nos Wener.

Cafodd y fam i dri o blant, Fateha Ahmed, y syniad o greu’r sesiynau yma fel bod merched Mwslimaidd yn gallu ymarfer mewn preifatrwydd.

Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol gydag iechyd meddyliol a chorfforol y merched wedi gwella. Roedd rhai o’r merched hyn yn segur cynt a diolch i Fateha, mae nofio wedi eu cael nhw i godi allan a bod yn egnïol.

Mae Cydlynydd y Prosiect, Simon Lu, yn llawn canmoliaeth i waith Fateha ac esbonia: “Fe welodd hi angen am weithgarwch corfforol mewn demograffig anodd iawn ei gyrraedd. Aeth ati i chwilio am leoliad a chyllid, gan recriwtio cyfranogwyr a’u galluogi i fod yn wirfoddolwyr, a gwnaeth ei phrosiect yn gwbl hunangynhaliol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei hymrwymiad a’i gwaith caled.”

Yn dod o’r gymuned Bengali, mae Fateha yn cyfuno ei gwirfoddoli gyda llawer o ymrwymiadau teulol a swydd lawn amser.

Erbyn hyn mae Fateha yn mentora gwirfoddolwyr y prosiect ac yn eu helpu ar hyd eu llwybr hyfforddi, gan gynnig cefnogaeth ac wyneb cyfeillgar iddyn nhw.

Hannah Nolan – Person Ifanc Ysbrydoledig.

Mae gan chwaraeon bŵer i newid bywydau pobl.

I Hannah Nolan, fe roddodd gwirfoddoli i Brosiect Delwedd Iach Gwasanaeth Ieuenctid Conwy gyfle iddi mewn bywyd yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Doeddwn i ddim mewn cyflwr meddwl iach ac roedd rhaid i mi gael rhywbeth i godi allan o’r tŷ,” cofia Hannah, 16 oed. “Roeddwn i ar fy ngwaethaf erioed, yn llusgo fy hun i bob man a ddim yn bwyta nac yn cysgu llawer.”

Yn 2015, aeth i helpu mewn sesiwn Us Girls ym Mae Cinmel ar adeg pan oedd ei bywyd personol hi’n anodd iawn.

Esbonia: “Rydw i wedi dioddef o iselder a phryder difrifol, a meddyliau am hunanladdiad er pan oeddwn i’n 11 oed. Roedd y meddyliau yn fy mhen i mor ddrwg ond mae gwirfoddoli wedi newid llawer iawn ar fy mywyd i.”

Mae Hannah yn dweud ei bod wedi mynd o fod yn ferch swil oedd ddim yn hoffi mynd allan i rywun sydd nawr yn rhedeg sesiynau chwaraeon yn hyderus, ac yn cynorthwyo mewn digwyddiadau ar raddfa fawr.

“Mae gen i lawer mwy o hunan hyder,” cyfaddefa. “Roeddwn i’n berson oedd ddim yn hoffi rhyngweithio cymdeithasol. Fe wnes i ddioddef o bryder cymdeithasol a doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda phobl – nawr rydw i’n gallu rhedeg grŵp o hyd at 30 o bobl ifanc yn eu harddegau!”

Yn ogystal â’r Prosiect Delwedd Iach, ar hyn o bryd mae Hannah yn gwirfoddoli mewn Clwb Ieuenctid lleol yn ei chymuned – ardal o amddifadedd, yn ogystal â helpu yn Fit Conwy, gydag Us Girls ac mewn clybiau chwaraeon ysgol allgyrsiol, fel Trampolinio.

Fis Mehefin eleni, fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddoli, cafodd y ferch ifanc yn ei harddegau Ganmoliaeth Uchel gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) am ei gwaith yn gwirfoddoli yn y gymuned, a derbyniodd Ddyfarniad Gwirfoddolwr y Mileniwm.

Nawr mae hi wedi gwirfoddoli mwy na 150 o oriau yn ei chymuned leol, ond mae’n dweud bod y manteision yn gweithio ddwy ffordd: “Mae gweld pawb yn hapus gyda’r gwaith rydw i’n ei wneud yn fy ngwneud i’n hapus hefyd,” meddai. “Dydw i ddim yn gorfod ffugio gwên bob dydd erbyn hyn oherwydd mae gweld y wên ar eu hwynebau nhw’n fy llenwi i â llawenydd,” ychwanegodd.

Mae Hannah yn gwneud hyn i gyd gan jyglo ei gwaith ysgol a’i harholiadau hefyd.

Mae gwirfoddoli’n ffordd iddi reoli ei salwch meddwl ac yn mynd â meddwl Hannah, sydd hefyd yn helpu i ofalu am ei Nan, sydd wrthi’n gwella o Ganser yr Ysgyfaint. Mae’n dweud bod gwirfoddoli wedi bod yn help mawr iawn iddi:

“Dyma beth rydw i’n ei wneud o ddydd i ddydd. Gwirfoddoli ydi fy mywyd i.”

Mark James – Hyfforddwr Cymunedol.

Yn cael ei ddisgrifio fel ‘curiad calon’ clwb bocsio ABC Somerton, mae Mark James yn mynd yr ail filltir wrth hyfforddi yn ei gymuned.

“Mae’n bwysig bod gan blant rywbeth i’w wneud yn y gymuned,” esbonia.

Mae’r 12 mis diwethaf yn arbennig wedi gweld aelodaeth y clwb yn gwella’n ddramatig.

Diolch i Mark mae hyn, am roi 15 awr yr wythnos o’i amser i gynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc a henoed focsio – i gadw’n heini neu i gystadlu.

Mae’n cynnal pedwar sesiwn yr wythnos, gan gynnwys un ar bnawn Sul, a mwy fyth o amser ar gyfer gornestau ac i fynd i wyliau chwaraeon.

Mae’n gwneud hyn i gyd ochr yn ochr â’i swydd lawn amser fel Chwistrellwr Mecanyddol a chefnogi ei deulu mawr.

“Rydw i’n ei wneud e i’w gweld nhw’n tyfu fel bocswyr, yn mwynhau ac yn ennill cystadlaethau hyd yn oed,” esbonia.

Wedi’i leoli yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Somerton, ar stad galed, mae’r cyfleuster aml-ddefnydd yn cael ei drawsnewid yn lleoliad bocsio ar gyfer pob sesiwn ymarfer. Mae Mark yn cyrraedd yn gynnar i hongian bagiau bocsio ac mae’n gosod y cylch bocsio symudol yn ei le yn barod ar gyfer y nifer fawr fydd yn bresennol.

Dyma Leigh Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon gyda Newport Live i esbonio pam mae Mark yn gymaint o ased i’r clwb: “Mae’n darparu cyfleoedd i’r unigolion anoddaf eu cyrraedd drwy focsio ac mae fel tad i lawer ohonyn nhw.” Mae’n ei alw’n ‘arwr cymunedol go iawn’ gan ychwanegu: “Mae Mark wedi cael dylanwad ar lawer o unigolion ac wedi defnyddio bocsio i’w hatal nhw rhag dilyn y llwybr anghywir mewn bywyd, fel cyfrwng i’w haddysgu nhw ac i’w cael nhw i ganolbwyntio. Mae wedi cynnig cyfleoedd i gymaint o unigolion.”

I Mark, mae’n fwy na dim ond camp, mae’n angerdd.

A’i gyngor i unrhyw un sy’n ystyried hyfforddi?

“Yn bendant, ewch amdani – fe fyddwch chi’n elwa llawer!”

Eban Geal – Person Ifanc Ysbrydoledig.

Does gan Eban Geal ddim ofn gwaith caled.

Fo yw’r unig berson o Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru i gwblhau pob agwedd ar lwybr y Llysgenhadon Ifanc, o Efydd drwodd i Aur.

Hefyd mae wedi treulio mwy na 300 o oriau’n gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chafodd ei gydnabod gan raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm am hynny.

Mae’r bachgen ifanc o Ynys Môn wedi gwneud hyn i gyd gan astudio ar gyfer ei arholiadau ar yr un pryd.

“Fe gefais i wyliau Haf prysur yn ceisio cynnwys mwy o wirfoddoli, oherwydd roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n brysur yn adolygu,” dywedodd wrthym ni.

Dechreuodd Eban ar ei siwrnai fel Llysgennad Ifanc ym Mlwyddyn 6, wedi’i ysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012.

Gan symud i fyny’r ystol, mae ganddo uchelgais i gyflawni mwy fyth.

“Rydw i eisiau dal ati i gofnodi oriau gwirfoddoli,” esboniodd. “Fe hoffwn i roi cyfleoedd i bobl eraill gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Yn cael ei sbarduno gan angerdd dros chwaraeon – a’i gymuned leol – mae Eban yn wirfoddolwr brwd yn yr ysgol a’r tu allan iddi, a helpodd i sefydlu timau pêl droed iau ym mhentref Brynsiencyn. Mae hefyd yn mwynhau codi arian neu helpu mewn digwyddiadau elusennol, o wirfoddoli gyda Ras Gyfnewid Ymchwil Canser i gerdded i gopa’r Wyddfa er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Pan nad yw’n brysur yn hyfforddi neu’n helpu mewn digwyddiadau, mae Eban yn helpu i ddylanwadu ar ddyfodol hamdden ar Ynys Môn. Mae’n aelod o Fforwm Hamdden a Chwaraeon Cyngor Ynys Môn ac yn llawn syniadau ar gyfer y dyfodol ar yr ynys ac mewn chwaraeon – dau beth pwysig iawn iddo.

Mae gwirfoddoli wedi helpu Eban i ddatblygu fel person.

“Mae wedi gwella fy hyder i’n fawr,” dywedodd. “Mae gen i well sgiliau cyfathrebu yn awr, yn enwedig wrth siarad o flaen pobl.”

Mae ei rieni’n falch iawn o’r hyn mae wedi’i gyflawni.

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i’r bachgen ifanc, ac mae’n gyffrous iawn am deithio i Gibraltar yn 2019 i helpu tîm Athletau Ynys Môn sy’n cystadlu yng Ngemau Rhyngwladol yr Ynysoedd yno.

“Mae gwirfoddoli wedi agor drysau i mi ac mae’n dod â mwynhad i mi,” ychwanegodd Eban.