Chris Rogers – Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Mae Chris Rogers nid yn unig yn hoff o geffylau, ond hefyd o hyfforddi pobl i fod yn acrobatig arnyn nhw!

“Gymnasteg a dawns ar gefn ceffyl ydi hyn mewn gwirionedd,” esbonia Chris, sy’n brif hyfforddwr gyda’r Talygarn Vaulters.

Mae’r Clwb Marchogaeth wedi bod yn weithredol ers chwe blynedd ac mae wedi bod yn gweithio gyda phobl anabl am y tair blynedd diwethaf.

“Gweld y plant yn gwneud gwelliannau personol enfawr ydi fy rheswm i dros wneud hyn,” dywedodd Chris. “Pan maen nhw’n cyrraedd i ddechrau, dydyn nhw ddim yn gallu mynd ar gefn y ceffylau, ond wedyn maen nhw’n magu hyder.”

Diolch i amynedd, ymrwymiad a gwaith caled Chris, mae plant abl ac anabl yn cael bod yn egnïol, a chystadlu yn y gamp hyd yn oed.

Yn wir, mae wedi helpu i hyfforddi tri neidiwr rhyngwladol ac mae nifer o Bencampwyr Cymru yn y grŵp.

“Dim ots os ydi’r cyflawniadau’n fawr neu’n fach, cynnydd sy’n bwysig – ac i bob plentyn mae hynny’n bwysig iawn,” meddai’r hyfforddwr o Dde Cymru.

Mae Chris yn cynnal tri grŵp, gan gynnwys sesiwn gydag ysgol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) leol.

Mae hi’n brysur yn hybu aelodaeth y clwb hefyd. Mae’n cymryd ei rôl o ddifrif a bob amser yn ceisio gwella ei gwybodaeth a’i hyfforddiant mewn meysydd anabledd ac yn fwy cyffredinol.

Ac nid yw ei hymdrechion wedi’u cyfyngu i hyfforddi – yn aml mae’n brysur yn gweinyddu’r clwb, yn golchi’r cit ac yn cynnal a chadw’r tiroedd yn gyffredinol.

“Rydw i wrth fy modd gyda’r cyfan,” dywedodd. “Rydw i wedi ymwneud â cheffylau erioed ac rydw i’n hoff iawn o’r ochr greadigol, o’r gwisgoedd a’r gerddoriaeth i’r themâu a’r ymarferion.”

Mae Chris yn rhoi ei dyddiau, ei gyda’r nosau a’i phenwythnosau i’r clwb – ac yn cael llawer o bleser o hynny.

Mae’n dweud bod neidio ceffylau’n gallu eich gwneud chi’n fwy heini ac yn gryfach, gan wella eich cryfder craidd a’ch cydbwysedd.

“Mae’n grêt gweld y plant yn dechrau meddwl am eu syniadau eu hunain am beth maen nhw eisiau ei berfformio – fy ngwaith i ydi eu hannog nhw,” ychwanegodd.

Mae’n argymell hyfforddi mewn chwaraeon i bawb.

“Os ydych chi’n hoffi rhywbeth, gwnewch e. Mae’n rhoi cymaint o foddhad.”

Fateha Ahmed – Gwirfoddolwr y Flwyddyn.

“Rydw i’n teimlo’n gymaint mwy egnïol”
“Mae ymarfer yn codi fy hwyliau i”
“Rydw i’n teimlo’n rhan o grŵp ac rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd”

Dim ond rhywfaint o’r adborth gan ferched Mwslimaidd o Gaerdydd sydd nawr yn nofio – diolch i Fateha Ahmed.

Fel Gweithiwr Eirioli gwirfoddol yn y gymuned DLlE, gwelodd Fateha bod diffyg gweithgareddau nofio ar gael ar gyfer merched Mwslimaidd lleol.

Arweiniodd ei dyhead i newid hyn at Brosiect Nofio lleol a sefydlwyd gan Chwaraeon DLlE Cymru fwy na 12 mis yn ôl.

Ers hynny, mae mwy na 250 o ferched a genethod wedi mynychu’r sesiwn nofio ar nos Wener.

Cafodd y fam i dri o blant, Fateha Ahmed, y syniad o greu’r sesiynau yma fel bod merched Mwslimaidd yn gallu ymarfer mewn preifatrwydd.

Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol gydag iechyd meddyliol a chorfforol y merched wedi gwella. Roedd rhai o’r merched hyn yn segur cynt a diolch i Fateha, mae nofio wedi eu cael nhw i godi allan a bod yn egnïol.

Mae Cydlynydd y Prosiect, Simon Lu, yn llawn canmoliaeth i waith Fateha ac esbonia: “Fe welodd hi angen am weithgarwch corfforol mewn demograffig anodd iawn ei gyrraedd. Aeth ati i chwilio am leoliad a chyllid, gan recriwtio cyfranogwyr a’u galluogi i fod yn wirfoddolwyr, a gwnaeth ei phrosiect yn gwbl hunangynhaliol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei hymrwymiad a’i gwaith caled.”

Yn dod o’r gymuned Bengali, mae Fateha yn cyfuno ei gwirfoddoli gyda llawer o ymrwymiadau teulol a swydd lawn amser.

Erbyn hyn mae Fateha yn mentora gwirfoddolwyr y prosiect ac yn eu helpu ar hyd eu llwybr hyfforddi, gan gynnig cefnogaeth ac wyneb cyfeillgar iddyn nhw.

Hannah Nolan – Person Ifanc Ysbrydoledig.

Mae gan chwaraeon bŵer i newid bywydau pobl.

I Hannah Nolan, fe roddodd gwirfoddoli i Brosiect Delwedd Iach Gwasanaeth Ieuenctid Conwy gyfle iddi mewn bywyd yn ystod cyfnod anodd iawn.

“Doeddwn i ddim mewn cyflwr meddwl iach ac roedd rhaid i mi gael rhywbeth i godi allan o’r tŷ,” cofia Hannah, 16 oed. “Roeddwn i ar fy ngwaethaf erioed, yn llusgo fy hun i bob man a ddim yn bwyta nac yn cysgu llawer.”

Yn 2015, aeth i helpu mewn sesiwn Us Girls ym Mae Cinmel ar adeg pan oedd ei bywyd personol hi’n anodd iawn.

Esbonia: “Rydw i wedi dioddef o iselder a phryder difrifol, a meddyliau am hunanladdiad er pan oeddwn i’n 11 oed. Roedd y meddyliau yn fy mhen i mor ddrwg ond mae gwirfoddoli wedi newid llawer iawn ar fy mywyd i.”

Mae Hannah yn dweud ei bod wedi mynd o fod yn ferch swil oedd ddim yn hoffi mynd allan i rywun sydd nawr yn rhedeg sesiynau chwaraeon yn hyderus, ac yn cynorthwyo mewn digwyddiadau ar raddfa fawr.

“Mae gen i lawer mwy o hunan hyder,” cyfaddefa. “Roeddwn i’n berson oedd ddim yn hoffi rhyngweithio cymdeithasol. Fe wnes i ddioddef o bryder cymdeithasol a doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda phobl – nawr rydw i’n gallu rhedeg grŵp o hyd at 30 o bobl ifanc yn eu harddegau!”

Yn ogystal â’r Prosiect Delwedd Iach, ar hyn o bryd mae Hannah yn gwirfoddoli mewn Clwb Ieuenctid lleol yn ei chymuned – ardal o amddifadedd, yn ogystal â helpu yn Fit Conwy, gydag Us Girls ac mewn clybiau chwaraeon ysgol allgyrsiol, fel Trampolinio.

Fis Mehefin eleni, fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddoli, cafodd y ferch ifanc yn ei harddegau Ganmoliaeth Uchel gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy (CGGC) am ei gwaith yn gwirfoddoli yn y gymuned, a derbyniodd Ddyfarniad Gwirfoddolwr y Mileniwm.

Nawr mae hi wedi gwirfoddoli mwy na 150 o oriau yn ei chymuned leol, ond mae’n dweud bod y manteision yn gweithio ddwy ffordd: “Mae gweld pawb yn hapus gyda’r gwaith rydw i’n ei wneud yn fy ngwneud i’n hapus hefyd,” meddai. “Dydw i ddim yn gorfod ffugio gwên bob dydd erbyn hyn oherwydd mae gweld y wên ar eu hwynebau nhw’n fy llenwi i â llawenydd,” ychwanegodd.

Mae Hannah yn gwneud hyn i gyd gan jyglo ei gwaith ysgol a’i harholiadau hefyd.

Mae gwirfoddoli’n ffordd iddi reoli ei salwch meddwl ac yn mynd â meddwl Hannah, sydd hefyd yn helpu i ofalu am ei Nan, sydd wrthi’n gwella o Ganser yr Ysgyfaint. Mae’n dweud bod gwirfoddoli wedi bod yn help mawr iawn iddi:

“Dyma beth rydw i’n ei wneud o ddydd i ddydd. Gwirfoddoli ydi fy mywyd i.”

Mark James – Hyfforddwr Cymunedol.

Yn cael ei ddisgrifio fel ‘curiad calon’ clwb bocsio ABC Somerton, mae Mark James yn mynd yr ail filltir wrth hyfforddi yn ei gymuned.

“Mae’n bwysig bod gan blant rywbeth i’w wneud yn y gymuned,” esbonia.

Mae’r 12 mis diwethaf yn arbennig wedi gweld aelodaeth y clwb yn gwella’n ddramatig.

Diolch i Mark mae hyn, am roi 15 awr yr wythnos o’i amser i gynnig cyfleoedd i blant, pobl ifanc a henoed focsio – i gadw’n heini neu i gystadlu.

Mae’n cynnal pedwar sesiwn yr wythnos, gan gynnwys un ar bnawn Sul, a mwy fyth o amser ar gyfer gornestau ac i fynd i wyliau chwaraeon.

Mae’n gwneud hyn i gyd ochr yn ochr â’i swydd lawn amser fel Chwistrellwr Mecanyddol a chefnogi ei deulu mawr.

“Rydw i’n ei wneud e i’w gweld nhw’n tyfu fel bocswyr, yn mwynhau ac yn ennill cystadlaethau hyd yn oed,” esbonia.

Wedi’i leoli yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Somerton, ar stad galed, mae’r cyfleuster aml-ddefnydd yn cael ei drawsnewid yn lleoliad bocsio ar gyfer pob sesiwn ymarfer. Mae Mark yn cyrraedd yn gynnar i hongian bagiau bocsio ac mae’n gosod y cylch bocsio symudol yn ei le yn barod ar gyfer y nifer fawr fydd yn bresennol.

Dyma Leigh Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon gyda Newport Live i esbonio pam mae Mark yn gymaint o ased i’r clwb: “Mae’n darparu cyfleoedd i’r unigolion anoddaf eu cyrraedd drwy focsio ac mae fel tad i lawer ohonyn nhw.” Mae’n ei alw’n ‘arwr cymunedol go iawn’ gan ychwanegu: “Mae Mark wedi cael dylanwad ar lawer o unigolion ac wedi defnyddio bocsio i’w hatal nhw rhag dilyn y llwybr anghywir mewn bywyd, fel cyfrwng i’w haddysgu nhw ac i’w cael nhw i ganolbwyntio. Mae wedi cynnig cyfleoedd i gymaint o unigolion.”

I Mark, mae’n fwy na dim ond camp, mae’n angerdd.

A’i gyngor i unrhyw un sy’n ystyried hyfforddi?

“Yn bendant, ewch amdani – fe fyddwch chi’n elwa llawer!”

Eban Geal – Person Ifanc Ysbrydoledig.

Does gan Eban Geal ddim ofn gwaith caled.

Fo yw’r unig berson o Ynys Môn a Gogledd Orllewin Cymru i gwblhau pob agwedd ar lwybr y Llysgenhadon Ifanc, o Efydd drwodd i Aur.

Hefyd mae wedi treulio mwy na 300 o oriau’n gwirfoddoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chafodd ei gydnabod gan raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm am hynny.

Mae’r bachgen ifanc o Ynys Môn wedi gwneud hyn i gyd gan astudio ar gyfer ei arholiadau ar yr un pryd.

“Fe gefais i wyliau Haf prysur yn ceisio cynnwys mwy o wirfoddoli, oherwydd roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n brysur yn adolygu,” dywedodd wrthym ni.

Dechreuodd Eban ar ei siwrnai fel Llysgennad Ifanc ym Mlwyddyn 6, wedi’i ysbrydoli gan Gemau Olympaidd 2012.

Gan symud i fyny’r ystol, mae ganddo uchelgais i gyflawni mwy fyth.

“Rydw i eisiau dal ati i gofnodi oriau gwirfoddoli,” esboniodd. “Fe hoffwn i roi cyfleoedd i bobl eraill gymryd rhan mewn chwaraeon.”

Yn cael ei sbarduno gan angerdd dros chwaraeon – a’i gymuned leol – mae Eban yn wirfoddolwr brwd yn yr ysgol a’r tu allan iddi, a helpodd i sefydlu timau pêl droed iau ym mhentref Brynsiencyn. Mae hefyd yn mwynhau codi arian neu helpu mewn digwyddiadau elusennol, o wirfoddoli gyda Ras Gyfnewid Ymchwil Canser i gerdded i gopa’r Wyddfa er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Pan nad yw’n brysur yn hyfforddi neu’n helpu mewn digwyddiadau, mae Eban yn helpu i ddylanwadu ar ddyfodol hamdden ar Ynys Môn. Mae’n aelod o Fforwm Hamdden a Chwaraeon Cyngor Ynys Môn ac yn llawn syniadau ar gyfer y dyfodol ar yr ynys ac mewn chwaraeon – dau beth pwysig iawn iddo.

Mae gwirfoddoli wedi helpu Eban i ddatblygu fel person.

“Mae wedi gwella fy hyder i’n fawr,” dywedodd. “Mae gen i well sgiliau cyfathrebu yn awr, yn enwedig wrth siarad o flaen pobl.”

Mae ei rieni’n falch iawn o’r hyn mae wedi’i gyflawni.

Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i’r bachgen ifanc, ac mae’n gyffrous iawn am deithio i Gibraltar yn 2019 i helpu tîm Athletau Ynys Môn sy’n cystadlu yng Ngemau Rhyngwladol yr Ynysoedd yno.

“Mae gwirfoddoli wedi agor drysau i mi ac mae’n dod â mwynhad i mi,” ychwanegodd Eban.

Rebecca Jones-Morris – Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Athletwraig, Hyfforddwraig, Rheolwr Tîm, Ysgrifennydd a nawr, Cadeirydd … mae Rebecca Morris Jones yn dda am bob dim wrth wirfoddoli gyda Chlwb Trac a Chae Menai.

“Mae’n lle cyfeillgar i fod felly rydw i’n ei weld fel bywyd cymdeithasol a hobi yn gymaint â rôl wirfoddoli,” esbonia Rebecca.

Mae wedi ymwneud â’r clwb athletau am y 10 mlynedd diwethaf pan wnaeth hi a’i mab ymuno.

Yn ddiweddarach, pan oedd ei merch eisiau dod hefyd, roedd rhestr aros oherwydd prinder hyfforddwyr. Fe gamodd Rebecca i’r adwy.

“Rydw i wedi bod yn hyfforddi’r ieuenctid ddwywaith yr wythnos ers hynny,” dywedodd Rebecca, sy’n mynd ati i annog mwy o bobl i helpu yn eu clwb chwaraeon lleol. “Mae pawb sy’n ymwneud â’r clwb yn ffrindiau da ac rydw i’n teimlo bod pobl yn gwerthfawrogi beth rydw i’n ei wneud,” ychwanegodd.

Mae Rebecca yn rhoi oddeutu 500 awr y flwyddyn i’r clwb ac mae hyd yn oed wedi gwrthod mwy o oriau yn ei gwaith cyflogedig oherwydd hyn.

Mae wedi sefydlu cysylltiadau agos â Phrifysgol Bangor ac wedi cynyddu nifer yr aelodau iau yn y clwb yng Ngwynedd.

“Maen nhw wedi cystadlu’n dda ac fe wnaethon ni ennill Plât Cymru eleni a chael dyrchafiad yn y Gynghrair Datblygu Ieuenctid,” esbonia.

Yn wir, gyda Rebecca’n eu hannog, mae’r ieuenctid wedi ennill mwy na 100 o fedalau’n rhanbarthol ac yn genedlaethol yn ystod 2017 yn unig – ac mae llawer o bencampwyr wedi cael eu coroni. Dechreuodd athletwyr Prydain Fawr, fel y brawd a’r chwaer, Cari ac Iolo Hughes, ac Osian Dwyfor Jones, ar eu siwrnai athletig yng ngrŵp Rebecca.

“Fy nghymhelliant i ydi rhoi cyfle i bobl o bob oedran a gallu fod yn yr awyr agored a datblygu,” dywedodd Rebecca. “Mae’n grêt gweld plant yn bod yn egnïol yn lle bod adref yn y tŷ o flaen y teledu.”

Mae’n dweud na fyddai’n gallu gwneud beth mae hi’n ei wneud heb ei phartner “sy’n brysur yn gwneud te adref ac yn danfon y plant i bob man!” ac mae’n dweud ei bod yn rhan o dîm ymroddedig yn y clwb sy’n cydweithio i gyd er mwyn gwneud i bethau ddigwydd.

Ac er gwaetha’r nosweithiau tywyll a’r tywydd gaeafol ar hyn o bryd, mae Rebecca dal yn bositif.

“Rydw i’n mwynhau dod i lawr yma – hyd yn oed yn y gwynt a’r glaw.”

Sara Cuffin – Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Gyda mwy na 480 o gymnastwyr hamdden yn ymarfer yng Nghlwb Gymnasteg Ynys Môn, a rhestr aros o 60 o blant, mae gan yr hyfforddwr gwirfoddol, Sara Jane Cuffin, ddigon ar ei phlât yn sicr.

“Mae’n brysur,” chwertha Sara. “Ond pan rydych chi’n gwneud ymrwymiad i’r bobl ifanc yma, mae’n rhaid i chi fod yna iddyn nhw,” ychwanegodd.

Fel rhan o’r tîm hyfforddi yn y cyfleuster yng Nghaergybi – yr unig glwb gymnasteg ar Ynys Môn – mae Sara yn rhan allweddol o’i lwyddiant.

Mae wedi ymwneud â’r clwb am y 12 mlynedd diwethaf.

Yn ogystal â gweithio mwy na 40 awr yr wythnos mewn meddygfa, mae’n hyfforddi amrywiaeth o sesiynau gymnasteg 6 noson yr wythnos.

“Mae’n anodd cael y balans ond rydw i wrth fy modd,” cyfaddefa. “Mae fy mywyd i yn y gampfa neu’n teithio i gystadlaethau a chyrsiau, ond mae’n hobi, yn angerdd ac yn fywyd cymdeithasol i mi.”

Ers symud i gyfleuster penodol ddwy flynedd yn ôl, mae Sara wedi arwain ar gynyddu dosbarthiadau hamdden y clwb.

“Rydw i’n ceisio cynnwys hwyl a bod yn gyfeillgar wrth hyfforddi,” esbonia. “Mae helpu’r plant i ddatblygu’n fy ngwneud i’n falch iawn. O’r dechreuwyr sy’n dysgu gwneud olwyndro am y tro cyntaf a pha mor gyffrous ydyn nhw, i’r gymnastwyr cystadleuol sy’n meistroli lamu yn yr awyr.”

Mae Sara wedi bod yn sbardun mawr i gynhwysiant yn y clwb, gan gynnal sesiynau anabledd unwaith yr wythnos a chysylltu ag ysgol Anghenion Addysgol Arbennig leol. Roedd hyn o help iddyn nhw ennill Clwb y Flwyddyn Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2015.

Esboniodd Catherine Rowley, Prif Hyfforddwr Clwb Gymnasteg Ynys Môn, bod Sara yn mynd yr ail filltir er lles y clwb. Dywedodd: “Does dim byd byth yn ormod iddi hi. Hi ydi’r hyfforddwr cyntaf i mewn i baratoi’r dosbarthiadau a’r cyntaf i mewn ar fore Sadwrn i roi’r gwres ymlaen.”

Mae ei henwebiad yn dilyn blynyddoedd eithaf anodd yn ei bywyd personol, gyda salwch a marwolaeth rhywun agos ati.

“Mae Sara’n un o fil ac yn brwydro’i ffordd drwy bopeth mae bywyd yn ei daflu ati gyda gwên ar ei hwyneb a llam yn ei cham,” ychwanegodd Catherine.

Rebecca Caddell – Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Yn ôl yn 2012, gofynnwyd i Rebecca Caddell helpu yng Nghlwb Rygbi Brynaman ac aeth ati i ailsefydlu’r Adran Iau yno.

Heb fodloni ar sefydlu dim ond un tîm – sefydlodd bedwar!

“Fe drodd y cyfan yn belen eira ac, yn y diwedd, roeddwn i’n gwneud mwy a mwy, a dyma fi,” chwerthodd.

Bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae adran iau’r clwb yn ffynnu – diolch, yn bennaf, i ymrwymiad Rebecca.

Er bod ganddi’r cyflwr niwrolegol Sglerosis Ymledol (SY) a swydd ran amser, mae’n rhoi llawer iawn o’i hamser sbâr i’r clwb.

“Rydw i’n gwneud y stwff yn y cefndir mewn gwirionedd, o gŵn poeth yn y caffi ar ddydd Sul i gysylltu â chlybiau eraill,” esboniodd. “Mae’n llawer o waith ond mae pawb yn gwneud trwy’i gilydd ac yn gwneud gwaith gwych,” ychwanegodd Rebecca.

Mae ei rôl yn cynnwys Ysgrifennydd Gemau, Arlwyo mewn gemau cartref a Chodi Arian – y cyfan yn rhannau heriol, ond hanfodol, o lwyddiant unrhyw glwb chwaraeon.

Mae’n dweud bod gweld wynebau’r plant ar ddydd Sul yn werth y cyfan.

“Rydyn ni fel un teulu mawr – mae’n anhygoel sut mae pobl yn dod at ei gilydd ar ac oddi ar y cae,” ychwanegodd.

Mae Rebecca yn ymwybodol iawn o’r gymuned mae’n gwirfoddoli ynddi.

Cafodd ei henwebu am y ffordd mae’n gwrando ar y teuluoedd ac yn gofalu amdanynt a dod i’w hadnabod – gan ddeall eu gallu corfforol, eu cyfyngiadau ariannol a’u statws cymdeithasol.

Mae hi eisiau helpu bob amser ac fe sefydlodd ‘gronfa citiau’ hyd yn oed, i ailddefnyddio dillad ymarfer oedd wedi mynd yn rhy fach i’r plant hŷn, fel bod y rhai iau mewn sefyllfaoedd ariannol anodd yn gallu gwneud defnydd ohonyn nhw.

Ac mae pawb yn sylwi ar waith caled Rebecca yn y gymuned glos.

“Dim ond pentref bach yw hwn ar ymyl y mynyddoedd duon a does dim llawer o bethau’n digwydd yn yr ardal,” dywedodd. Ac wedyn ychwanegodd: “Rydw i’n ei wneud e i’r plant”.

Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn – Jodie Coupland

Mae Jodie Coupland yn dystiolaeth nad oes raid i ddechrau anodd mewn bywyd eich diffinio chi.

Cafodd ei magu yn y system ofal a’i heithrio o sawl ysgol uwchradd ac roedd mewn ysgol ymddygiad yn 16 oed.

Oherwydd pryderon mawr ei Phennaeth am y llwybr roedd yn ei ddilyn, gwelwyd rhaglen ‘Get on Track’ Y Fonesig Kelly Holmes fel ‘cyfle olaf’ i Jodie. Yn y diwedd, hwn oedd y dechrau iddi …

“Roeddwn i’n ddigywilydd yn iau – bob amser yn ceisio gwthio’r ffiniau a gweld pa mor bell oeddwn i’n gallu’u herio nhw, oherwydd dyna’r cwbl oeddwn i’n ei wybod,” cofia Jodie, sy’n 19 oed erbyn hyn. “Heddiw, rydw i eisiau gweld pa mor bell rydw i’n gallu gwthio fy hun!”

Mae Jodie, a raddiodd o’r rhaglen, yn gwirfoddoli fel Mentor Aml-Chwaraeon iddi yn awr.

Esbonia: “Rydw i’n rhoi amser i helpu pobl fel fi sydd ddim yn cael cyfle bob amser.”

Mae’n helpu i annog cyfranogwyr newydd ac mae’n rhywun maen nhw’n gallu uniaethu â hi.

Cafodd Jodie wahoddiad i gynhadledd yn Llundain lle rhannodd lwyfan gyda’r Fonesig Kelly ei hun. Fel siaradwr gwadd, sicrhaodd enw da i’w thref enedigol, Pen-y-bont ar Ogwr, drwy adrodd ei stori wrth fwy na 300 o bobl.

Dywedodd Jodie: “Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i’n ei wneud na ble fyddwn i oni bai am y bobl gefnogol yma yn fy mywyd i.”

Mae’n dweud bod y ffaith eu bod nhw wedi credu ynddi wedi newid ei bywyd.

“Hwn oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i mi beidio cael fy nghicio allan neu gael rhywun yn dweud wrtha’ i nad ydw i byth yn gallu cyflawni unrhyw beth,” dywedodd. “Roedden nhw’n dweud ‘Jo – mi fedri di fod beth wyt ti eisiau bod ac fe fyddwn ni yma i dy helpu di.”

Erbyn hyn mae Jodie yn gweithio’n rhan amser gyda darparwr hamdden lleol ond fe lwyddodd i gwblhau mwy na 350 o oriau o wirfoddoli y llynedd hefyd.

Wrth edrych yn ôl ar ei siwrnai, dywedodd: “I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod hwn yn un o’r cyrsiau hynny rydych chi’n cael eich gyrru arnyn nhw am eich bod chi’n un o’r rhai drwg, ond fe wnaeth i mi gymryd rhan mewn chwaraeon a rhoi cyfrifoldeb am arwain sesiynau i mi.”

Nawr, mae ei hymdrechion i gyd yn canolbwyntio ar roi yn ôl.

“Mae’r hyn rydw i wedi’i gael, wel, rydw i eisiau rhoi yn ôl ddwywaith yn fwy,” dywedodd. “Pan rydw i’n gweld yr aelodau newydd hefo tân yn eu llygaid, mae’n fy atgoffa i o faint roeddwn i eisiau newid.”

Nawr mae hi’n neidio allan o’r gwely ac yn barod oriau cyn bod angen iddi adael y tŷ.

“Rydw i wedi wynebu llawer o heriau personol ond maen nhw wedi ’ngwneud i’n berson cryfach,” esbonia.

Mae gwirfoddoli mewn chwaraeon wedi rhoi ystyr i’w bywyd hi, neu fel mae hi’n dweud ei hun:

“Rydw i’n gallu bod yn rhywun. Rydw i eisiau’r gorau i bawb – ac i mi fy hun.”